Lleoliad:
Hybrid, Ystafell Bwyllgora 5 – Tŷ Hywel Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Mawrth 2022
Amser:
09.30 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12633
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Brian Davies, Chwaraeon Cymru Owen Hathway, Chwaraeon Cymru Ashok Ahir, Canidate for President of the the National Library of Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Hefin David AS.
2 Gwrandawiad cyn penodi Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 a 9 o gyfarfod heddiw.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ôl-drafodaeth breifat
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
4.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, y tu allan i’r cyfarfod.
5 Trafod y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a dull o weithio ar y cyd
5.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu drafft ar ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol, ynghyd ag opsiynau ar gyfer gweithio ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater hwn eto y tu allan i'r cyfarfod hwn.
6 Adroddiadau diweddar ar anghydfodau mewnol yn Amgueddfa Cymru
6.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Heledd Fychan AS ar gyfer yr eitem hon.
6.2 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, a chytunodd i ystyried gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod hwn.
7 Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Chwaraeon Cymru.
7.2 Cytunodd cynrychiolwyr Chwaraeon Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn.
8 Papurau i'w nodi
8.1 Cafodd y papurau eu nodi.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at S4C ynghylch effaith cau'r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc ar blant a phobl ifanc.
9 Ôl-drafodaeth breifat
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, ar faterion yn ymwneud â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.